Croeso i MI-CYM!

Ystyr MI-CYM yw Mesurau Iechyd Cymraeg. Mae'r wefan ryngweithiol newydd hon yn rhoi mynediad rhwydd i ymarferwyr iechyd ac ymchwilwyr ledled Cymru at y wybodaeth ddiweddaraf am fesurau iechyd sydd ar gael yn Gymraeg. Mae hefyd yn galluogi rhai ohonoch sy'n ymwneud â chyfieithu mesurau iechyd i rannu gwybodaeth am eich cynnydd fel y gallwn adeiladu canolfan wybodaeth gynhwysfawr a chanolog. Fel hyn, bydd gan ymchwilwyr ac ymarferwyr ledled Cymru fwy o wybodaeth am fersiynau Cymraeg mesurau iechyd sydd ar gael a felly byddant yn gallu darparu gwasanaethau Cymraeg gwell ar gyfer pobl Cymru.

















Cyfleusterau


Cyflwyno Gwybodaeth

Os oes gennych ragor o wybodaeth am unrhyw fesurau sydd eisoes wedi cael eu cyfieithu neu sydd wrthi'n cael eu cyfieithu, rydym yn awyddus i glywed gennych. Hoffem ehangu ein system i gynnal mor gymaint o fesurau ag y bo modd.

Cyflwyno Gwybodaeth

Cyflwyno Cais

Os oes gennych fesur iechyd sydd angen ei gyfieithu neu os ydych angen rhagor o gyngor er mwyn bwrw ymlaen â'ch gwaith, gallwn eich helpu. Mae gennym arbenigedd methodolegol o fewn ein tîm a phrofiad eang o gydweithio ar draws disgyblaethau.

Cyflwyno Cais

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y safle neu awgrymiadau ar gyfer gwelliannau, rydym yn awyddus i glywed gennych. Yr ydym hefyd yn awyddus i glywed oddi wrth gydweithwyr sy'n ymwneud â chyfieithu mesurau iechyd mewn ieithoedd eraill fel y gallwn rannu ein profiadau.

Cysylltwch â ni